



Cartref
Y cogydd Rhodri Edwards a’i wraig Esther sy’n rhedeg y Ffarmers ac ers iddyn nhw symud i mewn ym mis Ebrill 2010, mae’r dafarn yn prysur ennyn enw da am fwyd o safon a phrisiau fforddiadwy.
Mae yna le amlwg i gynnyrch lleol, tymhorol ar y fwydlen ac mae honno’n newid yn gyson yn ôl beth sydd ar gael a beth mae’r cogydd awydd ei goginio. Lle delfrydol i alw heibio am ddiod bach neu i fwynhau pryd o fwyd yng nghwmni teulu a ffrindiau.
Bydd ein horiau agor yn newid ychydig dros gyfnod yr Wyl. Dyma'r newidiadau adeg Nadolig:
Noswyl Nadolig 24 Rhagfyr ~ 7yh-11yh (bar yn unig)
Dydd Nadolig 25 Rhagfyr ~ 11yb-1yp (bar yn unig)
Dydd San Steffan 26 Rhagfyr ~ Ar Gau
Dydd Mawrth 27 Rhagfyr ~ Ar Gau
Dydd Mercher 28 Rhagfyr ~ 6yh-11yh
Bydd y dafarn ynghau o'r 2-9 Ionawr, gan ail-agor am fwyd Nos Fawrth 10 Ionawr am 6 o'r gloch yr hwyr.
Oriau Agor Arferol
| Llun |
Ar Gau / Closed |
| Mawrth | 6-11pm |
| Mercher | 12-2pm, 6-11pm |
| Iau |
12-2pm, 6-11pm |
| Gwener |
12-2pm, 6-11pm |
| Sadwrn | 12-2pm, 6-11pm |
| Sul |
12-2pm, 7-11pm |
Os oes ganddoch unrhyw gwestiynau neu os hoffech gadw bwrdd, rhowch ganiad ar 01974 261275.






