Lleoliad
Mae’r Ffarmers wedi’i lleoli yng nghanol pentref bach Llanfihangel y Creuddyn, tuag 8 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth yng Ngheredigion. Y ffordd hawsaf i ddod yma os ych chi’n teithio o gyfeiriad Aberystwyth yw dilyn yr A487 allan o’r dre a thrwy Penparcau. Yn Southgate (gyferbyn â Gwesty Plas Antaron), trowch i’r chwith ar y ffordd i Bontarfynach (Devil’s Bridge - A4120) ac yna trowch yn syth bron i’r dde gan gymryd y B4340 tuag at Trawsgoed. Dilynwch y ffordd hon am ryw 4 milltir gan fynd trwy bentre’r Gors ac i lawr y rhiw. Ar waelod y rhiw, fe welwch arwydd i’r chwith am Lanfihangel y Creuddyn. Dilynwch y ffordd fach hon am ryw 2 filltir ac fe fyddwch yn dod i sgwâr y pentref. Mae’r dafarn ar y llaw chwith gyferbyn â’r Eglwys. Ein cod post at ddefnydd SatNav yw SY23 4LA.
*Cau Ffordd Dros Dro: Mae rhan o'r ffordd B4340 rhwng Aberystwyth a Thrawsgoed ynghau ger Abermagwr am waith cynnal a chadw rhwng 21 Ionawr a 29 Mawrth 2013 - OND dyw'r ffordd ddim ynghau tan ar ol y troad i Lanfihangel felly mae modd defnyddio'r B4340 os ych chi'n dod i'r Ffarmers! Os ych chi'n dod o gyfeiriad Bont ar hyd y B4340, bydd rhaid troi i'r dde yn Abermagwr a dod trwy Cnwch Coch i'n cyrraedd (y ffordd yn gul felly cymrwch bwyll). Mae'r darn sydd ynghau i'w weld ar fap Cyngor Ceredigion - chwiliwch am y marc bach gwyrdd golau.


