
Bwyd
Mae bwyd ar gael yn Y Ffarmers o nos Fawrth hyd amser cinio Dydd Sul gyda chinio'n cael ei weini rhwng 12 a 2 o'r gloch a swper rhwng 6 a 9 yr hwyr. O ddod yma ar benwythnos, mae fel arfer yn well bwcio mlaen llaw, yn enwedig ar gyfer grwpiau mwy. Cysylltwch naill ai trwy ebost neu trwy ffonio 01974 261275. Ryn ni hefyd yn cynnig prydau o fwyd i fynd ac fe allwch ffonio eich harcheb mlaen llaw neu aros yn y bar tra bo'r bwyd yn cael ei baratoi.
Pryd bynnag fyddwch chi'n dewis bwyta gyda ni, nod Y Ffarmers bob tro yw cynnig bwyd blasus o safon, gan ddefnyddio cynnyrch lleol a thymhorol lle’n bosib - neu’r gorau o beth sydd gan weddill y byd i’w gynnig. Does dim prinder bwyd da ar ein stepan drws. Ymhlith ein cynhyrchwyr lleol mae:
- Rob Rattray - cigydd o fri sydd â ffarm ac uned brosesu lai na dwy filltir o’r dafarn.
- Organic Fresh Food Company – cwmni yn gwerthu llysiau a chynnyrch organig a sefydlwyd yn Llambed nol yn yr 80au. Y moron mwya blasus erioed - a phan mae'n dymhorol, dail salad Nantclyd. !
- Wyau Alltfedw – daw’n wyau gan ieir maes Tony a Gwen Burgess ar fferm Alltfedw (Birchgrove) yn Nhrawsgoed.
- Ultracomida - daw tipyn o'n cawsiau Cymreig o'r deli hyfryd yma yng nghanol Aberystwyth ynghyd ag olew olewydd arbennig a gwinoedd Rioja.

