
Diod
Tafarn rydd yw’r Ffarmers sy’n golygu ein bod yn gallu prynu’r diod gan bwy bynnag ac o ble bynnag. Mae’n dewis o gwrw yn seiliedig ar ddymuniadau’n cwsmeriaid (maen gan bob un ei ffefryn) a’n nod o ddefnyddio cyflenwyr mor lleol â phosib.
Daw tipyn o’n cwrw o Felinfoel near Llanelli – y bragdy cyntaf ym Mhrydain i werthu cwrw mewn can nôl yn 1935! ‘Ryn ni hefyd yn cynnig cwrw go iawn o bryd i’w gilydd. Weithiau, Chwerw Gorau Felinoel sydd ar gael, ar adegau eraill bydd gennym gwrw o un o fragdai llai Cymru sy’n gwneud ystod eang o gwrw da e.e. bragdy Evan Evans yn Llandeilo.
Mae `na ddewis da o gwrw potel yn yr ardal hefyd, gan gynnwys Cwrw Calon Cambrian sy’n cael ei fragu yn y Neuadd Arms yn Llanwrtyd fel rhan o fenter Mynyddoedd y Cambria a sefydlwyd gan Dywysog Cymru.
Cwmni Fine Wines Direct yng Nghaerdydd sy’n cyflenwi’n gwin – yr unig warws yng Nghymru sy’n mewnforio gwin yn uniongyrchol i’w warws. Mae’n rhestr ni’n amrywio o Sauvignon Blanc hynod yfadwy a fforddiadwy o Chile i Pinot Noir arbennig o stad Marlborough Allan Scott yn Seland Newydd.

