
Amdanom Ni
Perchnogion Y Ffarmers yw Rhodri Edwards a’i wraig Esther Prytherch. Ill dau wedi’u magu yn ardal Aberystwyth ond wedi symud i Gaerdydd i weithio yn y diwydiant darlledu cyn dychwelyd i Geredigion yn 2003.
Yn sgil y symud, fe benderfynodd Rhodri ddilyn cwys newydd a mynd ati i ddatblygu ei ddoniau coginio. Cafodd swydd fel cogydd dan hyfforddiant yng ngwesty’r Harbwr yn Aberaeron a bu’n gweithio yn y gegin yno am ddwy flynedd. Ym mis Mai 2007, cafodd ei benodi’n Brif Gogydd yn ultracomida yn Aberystwyth ac fe dreuliodd ddwy flynedd yn y bwyty sy’n arbenigo mewn bwyd o Gymru, Sbaen a Ffrainc. Y freuddwyd wrth gwrs oedd rhedeg ei le ei hun.
Gwireddwyd y freuddwyd ym mis Ebrill 2010 pan brynwyd Y Ffarmers ym mhentre Llanfihangel y Creuddyn, tua 8 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth. Tra fo Rhodri’n gweithio yn y gegin, mae Esther yn gofalu ar ôl y bar a’r bwyty. Ond mae hwn yn fusnes teulu a help llaw ar gael o sawl cyfeiriad.
Pan mae adref o’r brifysgol, mae’r mab hynaf Harri yn cynorthwyo’i dad yn y gegin. Mae ei frawd Jacob yntau’n gaffaeliaid, yn gweini ar y llawr yn ogystal â gweithio y tu ôl i’r bar. Mae’r ieuengaf o’r tri phlentyn, Hanna, braidd yn ifanc o hyd ond mae’n codi ysbryd pawb gyda’i gwên parod a’i sgwrs ddifyr. Busnes teulu go iawn.

